Winter 2026 Newsletter
Cymraeg isod


Be a better beekeeper
After attending a free hive-side training morning at Anglesey Bees, stay on for a "be a better beekeeper" afternoon course.
The focus will be on:-
- Understand how to react to the appearance of queen cells
- Swarm prevention strategies
- Switching off the swarming impulse
- Dealing with queenless colonies and drone-laying queens
- Raising queens and producing nucs on a small scale
Click here to find out more and book a place on an afternoon "be a better" beekeeper course

On-line shop
We are pleased to launch our own on-line shop. This makes buying honey, booking onto training courses and experiences and buying gift vouchers far easier and payments by card using the familiar stripe platform gives confidence and security.

We are always seeking out opportunities to collaborate with other local independent businesses and organisations that share our environmental and social values. Recently we have been present and selling our honey at the "Crafter's Table" in the foyer of the Award-winning Fron Goch Garden Centre near Caernarfon. Whilst we are proud to be associated with such a prestigious business, the table fee is donated to local charities. We are at Fron Goch next on 28 February and 1 March. See you there!

Having seen the need for a responsive local forum for discussion and information sharing, we recently established the North Wales Beekeepers and Bee farmers Facebook group. This group is for beekeepers, bee farmers and anyone interested in bees and honey with a focus on north Wales. The group operates independently of local beekeeping associations and aims to provide a platform for free discussion for both hobbyists and commercial beekeepers regardless of the type of bees you choose to keep and how you choose to manage them.
Follow the North Wales Beekeepers and Bee farmers Facebook group here

Finally, Mothers' Day 15 March is quickly approaching! A gift voucher for a beekeeping experience makes a unique and welcomed gift for this special occasion. Purchase a gift voucher from the online shop to be emailed or printed and posted to you in time for Mothers' Day. There is no need to specify a date for the event at the time of purchase and gift vouchers are valid till the end of the 2026 beekeeping season.
Cymraeg

Hyfforddiant Ger y Cwch
Mae Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion y Llywodraeth yn ariannu hyfforddiant ger y cwch am ddim ar gyfer gwenynwyr sydd a rhywfaint o brofiad yn barod. Cymdeithas Ffermwyr Gwenyn sydd wedi ennill y cytundeb i ddarparu'r hyfforddiant hwn ac fel aelod o Gymdeithas Ffermwyr Gwenyn, mae Gwenyn Môn yn hwb i ddarparu'r hyfforddiant hwn yng ngogledd Cymru. Mae'r sesiynau hyfforddi hanner diwrnod hyn am ddim ac yn ffocysu ar archwilio cychod yn fanwl; cynnal hylendid; a chanfod clefydau, plau ac ysglyfaethwyr.
Cliciwch yma i archebu eich lle ar sesiwn hyfforddiant
Ger y Cwch
gyda Gwenyn Môn

Hyfforddiant "Cael Gwell Hwyl ar Gadw Gwenyn"
Ar ôl mynychu bore o Hyfforddiant Ger y Cwch am ddim, gallwch aros ar gyfer cwrs prynhawn "Cael Gwell Hwyl ar Gadw Gwenyn"
Bydd y pwyslais ar:-
- Deall sut i ymateb i ymddangosiad celloedd brenhines
- Strategaethau atal heidio
- Diffodd y symbyliad i heidio
- Delio â chychod sydd heb frenhines a brenhinesau sy'n dodwy gwenyn gwryw yn unig.
- Magu brenhinesau a chynhyrchu cnewyll ar raddfa fachan

Siop ar-lein
Rydym yn falch o lansio ein siop ar-lein ein hunain. Mae hyn yn gwneud prynu mêl, archebu cyrsiau hyfforddiant a phrofiadau a phrynu tocynnau anrheg yn llawer haws, ac mae talu gyda cherdyn gan ddefnyddio'r llwyfan Stripe sy'n gyfarwydd, yn rhoi hyder a diogelwch.
Cliciwch yma i ymweld â'r siop ar-lein

Rydym yn aml yn edrych am gyfleoedd i gydweithio gyda busnesau a mudiadau annibynnol lleol eraill sy'n rhannu ein gwerthoedd amgylcheddol a chymdeithasol. Yn ddiweddar bum yn bresennol ac yn gwerthu ein mêl ar "Fwrdd y Crefftwyr" yng nghyntedd Canolfan arddio Fron Goch ger Caernarfon. Rydym yn falch o gael ein cysylltu â busnes o safon Fron Goch a chaiff y ffi am y stondin ei rhoi i elusennau lleol. Byddwn yn Fron Goch nesaf ar 28ain o Chwefror a'r 1af o Fawrth. Welwn i chi yno!

Ar ol gweld yr angen am fforwm lleol i drafod a rhannu gwybodaeth, aethom ati i greu grŵp Facebook Gwenynwyr a Ffermwyr Gwenyn Gogledd Cymru. Mae'r grŵp ar gyfer gwenynwyr, ffermwyr gwenyn ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwenyn a mêl gyda ffocws ar ogledd Cymru. Mae'r grŵp yn gweithredu'n annibynnol o'r cymdeithasau gwenynwyr lleol ac mae'n anelu at ddarparu llwyfan ar gyfer trafodaeth rydd i rai sy'n cadw gwenyn fel hobi neu fusnes, waeth beth yw'r math o wenyn rydych chi'n dewis eu cadw a sut rydych chi'n dewis eu rheoli.
Dilynwch grŵp Facebook North Wales Beekeepers and Beefarmers yma

Yn olaf, mae Sul y Mamau 15 Mawrth yn agosáu'n gyflym! Mae tocyn anrheg ar gyfer profiad cadw gwenyn yn gwneud anrheg unigryw ar gyfer y digwyddiad arbennig hwn. Gallwch brynu tocyn anrheg o'r siop ar-lein i'w ddanfon trwy e-bost neu'i argraffu a'i bostio atoch mewn pryd ar gyfer Sul y Mamau. Nid oes angen nodi dyddiad ar gyfer y digwyddiad ar adeg y pryniant ac mae tocynnau anrheg yn ddilys tan ddiwedd tymor cadw Gwenyn 2026.
Comment on my blog










