Autumn 2026 Newsletter
Cymraeg isod
Re-branding
Since 2020, Anglesey Bees has grown as a brand beyond our dreams, to the point that we now produce sufficient honey to supply our own on-line and on-site shops and regularly supply honey to ten retail outlets all year round. Furthermore both our membership of the Bee Farmer's association and Great Taste Awards, recognise the quality and volume of honey we produce. Our beekeeping training courses and experiences have grown steadily whilst retaining their bespoke nature which was recognised by achieving Visit Wales accredited status. And in 2026 we were invited to deliver DEFRA-funded hive-side training courses to improve the skill-set of existing beekeepers.
Throughout this expansion we have rigorously defended our core values:-
We produce Anglesey wildflower honey of the highest quality in small batches, with the greatest respect for the honey, our bees and our environment. We are passionate about the quality of the wildflower honey that we produce and sell. You can be assured that it is always fresh and all produced by us. Unlike other suppliers, we do not buy honey in bulk from other beekeepers nor import it from abroad and repackage it. Furthermore, we do not keep a stock of honey from previous years to even out the supply. We harvest the spring wildflower honey in June and summer wildflower honey in August. We can identify the source of each jar of honey and the flowers the bees are likely to have been foraging on.
We are the leading provider of beekeeping training and experiences in Wales, based on customer satisfaction and numbers as testified by our reviewers. We draw on a wealth of experience as teachers and over 30 years as beekeepers. Numbers of participants on our experiences and courses are always kept low to ensure that you get individual attention and progress quickly.
We continue to work on our sustainable development plan to align our business with the seven goals of the wellbeing of future generations (Wales) act 2015 and to develop our green growth pledge.
Our partial rebranding is a light update that keeps the core of our brand intact, recognises brand values, achievements and milestones, whilst refreshing certain elements without losing our established identity. To this end we comissioned Fineline Print and Web, Rhuthin, to refresh our familiar logo, Furthermore, Judy, their graphics designer, skilfully used AI to generate new artwork for our unique honey labels, reflecting our location close to the Menai Straits and depicting hedgerow and tree blossom on the spring labels whilst meadow flowers are evident on the summer labels.
Greetings Cards
We have printed a collection of greetings cards using our photographs of bees foraging on various flowers at Anglesey Bees and photographs taken whilst managing and inspecting our hives. As they are left blank inside, they are ideal for every event including Christmas, birthdays, thank you and best wishes etc. The greeting cards are available from our on-line shop in packs of five or individually if you call in person or at our stall at Fron Goch Garden Centre, Caernarfon.
Improving accessibility project
With support from the Anglesey Food Partnership we are about to complete work on site to improve visitor safety and accessibility for families with young children and individuals with limited mobility. This includes installing safety fencing, gates, arbours, decking and a life buoy and handrail near the lake, woodland and apiary walks. We are confident that these measures will improve inclusivity and benefit visitors to the on-site shop and open garden days as well as participants on beekeeping experiences and courses.
Honey for sale at Siop Bodeilio, Talwrn
We have recently added the community-run shop at Talwrn, Anglesey to our list of stockists, which is of particular relevance as we have two apiaries in the vicinity.
In addition our honey can be found at :-
- O G Owen and Son, Family Butchers, Caernarfon.
- Anglesey Fine Foods, Valley.
- & Caws, Menai Bridge.
- Cadnant Hidden Gardens, Menai Bridge,
- Mercado Butchers and Deli, Beaumaris
- Glandwr Butchers, Benllech.
- Island Cove Cafe, Benllech.
- Ann's Pantry, Moelfre.
- Crafter's corner at Fron Goch garden centre, Carnarfon on the last weekend of every month.
- Anglesey Bees on-site shop, Llanddaniel by arrangement
- Anglesey bees on-line shop at www.angleseybees.co.uk/on-line-shop
Anglesey Bees teams up with DELSOL for affordable local deliveries
Deliveries of all online orders to LL and CH postcodes are now routed through Caernarfon-based Delsol next day delivery service at a flat rate of £4.25 regardless of how much you buy. This halves the delivery cost when you order 4 jars or more.
Open garden days in 2027
After a break, we are planning to open our garden, woodland and lake to the public again on 10 April and 16 May 2027 under the auspices of the National Garden Scheme. In previous years, these events have proven to be very popular and people regularly tell us how much they enjoyed themselves. There will be the usual home-made refreshments, beekeeping presentations and honey for sale. Previous events have raised thousands of pounds for charitable healthcare and medical research charities. Please make a note of the dates in you diary as we hope that we can rely on you to make our events in 2027 even more successful.
Christmas gifts
Now is the time to start thinking about buying Christmas gifts for honey-lovers, and aspiring beekeepers. Choose between large and small jars of spring or summer wildflower honey; beeswax products; gift vouchers for beekeeping experiences or beginner's courses in 2027 and packs of honeybee-themed greeting cards - all dispatched by next day delivery.
Ail-frandio
Ers 2020, mae Gwenyn Ynys Môn wedi tyfu fel brand y tu hwnt i'n breuddwydion, i'r pwynt rydym bellach yn cynhyrchu digon o fêl i gyflenwi ein siopau ar-lein ac ar-safle ein hunain ac yn rheolaidd yn cyflenwi mêl i naw man gwerthu drwy'r flwyddyn. Yn ogystal, mae ein haelodaeth o Gymdeithas Ffermwyr Gwenyn a Gwobrau y Great Taste Award yn cydnabod ansawdd a chyfaint y mêl rydym yn ei gynhyrchu. Mae ein cyrsiau hyfforddiant a phrofiadau cadw gwenyn wedi tyfu'n raddol hefyd tra'n cadw eu natur unigryw a gydnabyddwyd drwy gael dyfarniad statws Sicrwydd Anwawdd gan Croeso Cymru. Hefyd yn 2026, cawsom ein gwahodd i ddarparu cyrsiau hyfforddi ger y cwch wedi’u hariannu gan DEFRA i wella sgiliau gwenynwyr.
Drwy gydol y cyfnod yma o dwf wedi amddiffyn ein gwerthoedd craidd sef:-
Rydym yn cynhyrchu mêl blodau gwyllt o Ynys Môn o'r ansawdd uchaf, gyda'r parch mwyaf at y cynnyrch, y gwenyn a'r amgylchedd. Rydym yn teimlo'n angerddol am ansawdd y mêl blodau gwyllt o Ynys Môn yr ydym yn ei gynhyrchu a'i werthu. Gallwch fod yn sicr ei fod bob amser yn ffres ac yn cael ei gynhyrchu gennym ni. Yn wahanol i lawer o gyflenwyr mêl eraill, nid ydym yn dosbarthu mêl gan wenynwyr eraill. Ar ben hynny, nid ydym yn cadw stoc o fêl o flynyddoedd blaenorol er mwyn ceisio llyfnhau'r cyflenwad. Rydym yn cynaeafu mêl perthi'r gwanwyn ym mis Mehefin a mêl blodau gwyllt yr haf ym mis Awst. Gallwn nodi ffynhonnell pob jar o fêl a'r blodau y mae'r gwenyn yn debygol o fod wedi bod yn chwilota arnynt.
Ni yw prif ddarparwr hyfforddiant a phrofiadau cadw gwenyn yng Nghymru, yn seiliedig ar fodlonrwydd a niferoedd ein cwsmeriaid yn ôl yr adolygiadau. Mae ganddom gyfoeth o brofiad fel athrawon a dros 30 mlynedd fel gwenynwyr. Mae nifer y cyfranogwyr ar ein profiadau a'n cyrsiau bob amser yn cael eu cadw'n isel i sicrhau eu bod yn cael sylw unigol ac yn gwneud cynnydd yn gyflym.
Rydym yn parhau i weithio ar ein cynllun datblygu cynaliadwy i alinio ein busnes gyda saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac i ddatblygu ein hymrwymiad twf gwyrdd.
Mae ein hail-frandio yn uwchraddiad sy’n cadw craidd ein brand yn adnabyddadwy, yn cydnabod gwerthoedd, cyflawniadau a cherrig milltir y brand, tra’n adnewyddu elfennau penodol heb golli'r hunaniaeth rydym wedi ei sefydlu'n barod. Comisiynwyd cwmni Fineline Print and Web, Rhuthun, i adnewyddu ein logo cyfarwydd. Yn ogystal, defnyddiodd Judy, eu dylunydd graffeg, dechnoleg deallusrwydd artiffisial yn fedrus i greu gwaith celf newydd ar gyfer ein labeli mêl unigryw, gan adlewyrchu ein lleoliad ger y Fenai ac arddangos blodau’r gwrychoedd a choed ar y labeli gwanwyn tra bod blodau'r ffriddoedd yn amlwg ar y labeli haf.
Cardiau Cyfarchion
Rydym wedi argraffu casgliad o gardiau cyfarchion gan ddefnyddio ein lluniau ni o wenyn mel ar wahanol flodau yng ngerddi Gwenyn Môn a lluniau a gymerwyd wrth archwilio'r cychod a thrin y gwenyn. Gan eu bod yn wag y tu mewn, maent yn berffaith ar gyfer pob digwyddiad gan gynnwys Nadolig, pen-blwydd, diolch a dymuniadau gorau ac ati. Mae’r cardiau yma ar gael o’n siop ar-lein mewn paciau o bump neu’n unigol os byddwch yn galw ar y safle neu yn ein stondin yng Nghanolfan Gardd Fron Goch, Caernarfon.
Prosiect gwella hygyrchedd
Gyda chefnogaeth Partneriaeth Bwyd Ynys Môn, rydym ar fin cwblhau gwaith ar y safle i wella diogelwch ymwelwyr a hygyrchedd i deuluoedd gyda phlant bach ac unigolion â symudedd cyfyngedig. Mae hyn yn cynnwys gosod ffensys diogelwch, giâtiau, meinciau, bŵi achub a challawiau ar y llwybrau drwy'r coetir, a heibio'r wenynfa a'r llyn. Rydym yn hyderus y bydd y mesurau hyn yn gwella cynhwysiant ac o fantais i ymwelwyr â'r siop ar y safle a dyddiau gardd agored yn ogystal ag i'r rhai sy'n cymryd rhan mewn profiadau a chyrsiau hyfforddiant.
Mêl ar werth yn Siop Bodeilio, Talwrn
Rydyn ni newydd ychwanegu'r siop agymunedol Talwrn, Ynys Môn at ein rhestr o siopwyr, sy’n berthnasol ganddom ddwy wenynfa ger llaw.
Yn ogystal, gallwch ddod o hyd i'n mêl yn:-
- O G Owen a'i fab, Cigyddion Teuluol, Caernarfon;
- Anglesey Fine Foods, y Fali;
- & Caws, Porthaethwy;
- Gerddi Cudd Cadnant, Porthaethwy;
- Cigyddion a Deli Mercado, Beaumaris;
- Cigyddion Glandwr, Benllech;
- Caffi Island Cove, Benllech;
- Pantri Ann, Moelfre.
- Corncel crefftwr yn Nhanolfan Garddio Fron Goch, Caernarfon ar benwythnos olaf bob mis.
- Siop Ar-Safle Gwenyn Ynys Môn, Llanddaniel drwy drefniant
- Siop ar-lein Gwenyn Ynys Môn yn www.angleseybees.co.uk/on-line-shop
Gwenyn Ynys Môn yn cydweithio â DELSOL ar gyfer danfoniadau lleol fforddiadwy
O hyn ymlaen bydd pob archeb ar-lein i godau post LL a CH bellach yn cael ei hanfon trwy wasanaeth danfon y diwrnod nesaf gan gwmni Delsol sydd wedi'i leoli yng Nghaernarfon am gost o £4.25 waeth faint o fêl fyddwch yn ei archebu. Mae hyn yn hanneru'r gost danfon pan archebwch 4 jar neu fwy.
Dyddiau gardd agored yn 2027
Ar ôl bwlch, rydym yn cynllunio i agor ein gardd, coetir a llyn i'r cyhoedd unwaith eto ar
o dan nawdd y Cynllun Cenedlaethol Gerddi Agored. Yn y blynyddoedd blaenorol, mae'r digwyddiadau hyn wedi bod yn boblogaidd iawn ac mae pobl yn aml yn dweud wrthym faint o fwynhad maent wedi ei gael o ymweld a'n gerddi. Bydd paneidiau a chacen ar gael a chyflwyniadau am gadw gwenyn a mêl ar werth. Mae digyddiadau tebyg yn y gorffennol wedi codi miloedd o bunnoedd ar gyfer elusennau iechyd a ymchwil feddygol. Nodwch y dyddiadau hyn yn eich dyddiadur gan ein bod yn gobeithio y gallwn ddibynnu arnoch i wneud y digwyddiadau yn 2027 hyd yn oed yn fwy llwyddiannus.
Anrhegion Nadolig
Mae hi'n amser nawr i ddechrau meddwl am brynu anrhegion Nadolig i'r rhai sy'n hoffi mêl, a'r rhai sydd a ddiddordeb mewn cadw gwenyn neu fod yn wenynwr. Dewiswch rhwng jar mawr neu fach o fêl blodau gwyllt y gwanwyn neu'r haf; cynnyrch cwyr gwenyn; tocynnau anrheg ar gyfer profiadau gwenyn neu gyrsiau i ddechreuwyr yn 2027 a phaciau o gardiau cyfarch efo lluniau o gwenyn mêl. Caiff popeth ei hanfony diwrnod canlynol.
Comment on my blog










