learn about hive manipulations for swarm prevention and control

Mae hyfforddiant gloywi mewn dau ran, a gynhelir ar yr un dyddiau:-


Hyfforddiant ger y cwch (boreau)

  • 9am - 1pm Ebrill tan Awst
  • Am ddim ac wedi'i ariannu gan APHA (Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion)
  • Wedi'i gyflwyno gan aelodau Cymdeithas Ffermwyr Gwenyn
  • Uchafswm o 6 o bobl fesul cwrs
  • Yr un dyddiau â chyrsiau "cael gwell hwyl ar gadw gwenyn" yn y prynhawniau
  • Ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Defnydd o siwt amddiffynnol a menig wedi'u cynnwys

  • Ffocws ar archwilio cychod gwenyn
  • Hylendid gwenynfa a chychod gwenyn
  • Canfod clefydau, parasitiaid ac ysglyfaethwyr


Cliciwch yma i ddewis dyddiad a sicrhau eich lle ar yr hyfforddiant am ddim.



  • Cael gwell hwyl ar gadw gwenyn (prynhawniau)
  • 1.30pm- 4.30pm Ebrill tan Awst
  • Yr un dyddiau â sesiynau hyfforddi boreol ger y cwch  sydd am ddim.
  • £65 y pen


  • Deall sut i ymateb i ymddangosiad celloedd brenhines
  • Strategaethau atal heidio
  • Diffodd yr ysgogiad i heidio
  • Ymdrin â chychod heb frenhinesau a breninesau sy'n dodwy gwenyn gwryw.
  • Magu breninesau a chynhyrchu cnewyll ar raddfa fechan.




Cael gwell hwyl ar gadw gwenyn (prynhawniau)

Defnyddir cyflwyniadau, gweithgareddau ymarferol yn y wenynfa ac ymarfer senarios gan ddefnyddio cychod gwenyn gwag fel dulliau addysgu. Yn gyntaf, byddwn yn eich helpu chi i wahaniaethu rhwng celloedd heidio, celloedd disodli a chelloedd argyfwng ac egluro beth mae'r gwenyn yn ceisio ei wneud a chamau gweithredu ar gyfer pob un, gyda chanlyniad llwyddiannus i chi. Yna byddwn yn astudio manteision ac anfanteision dau ddull ataliol hawdd eu dilyn i ohirio dechrau paratoi i heidio ac yna ymarfer dau ddull ymarferol dibynadwy o "ddiffodd" yr ysgogiad heidio mewn cytrefi sydd eisoes wedi dechrau paratoadau i heidio.


Byddwch yn dysgu sut i achub cwch heb frenhines neu gwch efo brenhines sy'n dodwy gwenyn gwryw drwy ddefnyddio ail gwch i fagu brenhines wrth gefn ac os dymunwch, cynhyrchu cnewyllyn ychwanegol a gwneud cynnydd. 


  • Cwrs hanner diwrnod pob tywydd yn y prynhawn yw hwn
  • Cost, £65 y pen
  • Talwch flaendal  o £30 nawr i gadw lle
  • Talu'r gweddill o £35 wrth gyrraedd
  • uchafswm o 6 o bobl.
  • 1.30pm - 4:30pm
  • Mae defnyddio siwt gwenyn amddiffynnol a menig wedi'u cynnwys.
  • Gwahoddiad i ymuno â grŵp Whatspp am gefnogaeth barhaus.
  • Tocyn anrheg ar gael ar gyfer y cwrs hyfforddi hwn.


Dyddiadau ar gyfer 2026

Ebrill - 11, 22, 26

Mai - 9, 17, 20

Mehefin - 3, 20, 21

Gorffennaf - 9, 15, 16, 18, 26, 29

Awst - 1, 2, 12, 16, 27


Ewch i'r siop ar-lein i sicrhau lle  ar gwrs cael gwell hwyl ar gadw gwenyn yn y pnawn  ar ddyddiad o'ch dewis.