Darparwr hyfforddiant a phrofiadau cadw gwenyn mwyaf blaenllaw Cymru ar sail niferoedd ein cwsmeriaid a'u hadolygiadau.


Enillydd gwobr Darparwr hyfforddiant Cadw Gwenyn Gorau 2023, yr SME Magazine Business Elite Awards




Newydd ar gyfer 2024!

Profiad Cwrdd y Gwenyn neu Blasu'r mêl 

a chyfranddaliadau Plan Bee



Cael Blas

Cael Blas ar Gadw Gwenyn

efo Doctor Daf, y Doctor Gwenyn


Mae'r digwyddiad blasu hanner diwrnod hwn yn addas i deuluoedd efo plant o bob oedran ac mae'n gwneud anrheg delfrydol ar gyfer pen-blwydd, y Nadolig, Sul y mamau neu Sul y tadau. (Tocyn anrheg ar gael.) Mae o hefyd yn addas  fel y cam cyntaf ar gyfer cyw-wenynwr ac i rai a ysbrydolwyd gan raglenni teledu yn ddiweddar neu a hoffai ddysgu mwy am fêl a chadw gwenyn.


Byddwch yn darganfod pam ein bod yn cadw gwenyn ac ychydig am gylch bywyd y gwenyn cyn eu gweld yn agos o dan ficroscop a dysgu am y trefniant mewn cwch gwenyn. Yna, byddwn yn gwisgo dillad amddiffynnol ac yn mynd allan i'r wenynfa lle cewch rywfaint o brofiad ymarferol o drin y gwenyn dan oruchwyliaeth. I gloi’r profiad byddwch yn cael blasu mêl  gan ddysgu ychydig am fêl a gynhyrchir yn lleol a gwneud cannwyll cwyr gwenyn wedi’i rolio. Os bydd y tywydd anaddas (neu ar gyfer plant ifanc o dan 9 oed) efallai y byddwn yn darparu cwch gwenyn dan do â ffenestri gwydr arno.

  • Cost £60. Uchafswm o 4 person 
  • £40 y pen i blant 14 neu iau.
  • Rhaid i bob plentyn gael ei hebrwng gan oedolyn sy'n talu
  • Gallwn addasu'r profiad hwn ar gyfer plant o bob oedran
  • Grwpiau preifat mwy drwy drefniant
  • 10:00 - 13:00 neu 14:00 - 17:00 rhwng Ebrill a diwedd Awst.
  • Cysylltwch drwy alwad, neges destun neu ebost i drefnu.
  • Cliciwch ar y ddolen uchod i brynu tocyn anrheg.


Dyddiadau ar gyfer 2024


Ebrill 6, 7, 10, 11, 13, 16, 17, 27, 28

Mai  4, 5, 6, 11, 12, 14, 15, 17, 18

Mehefin 8, 9, 10, 11, 22, 23

Gorffennaf 6, 7, 11, 12, 24, 27, 28, 29

Awst 8, 10, 11, 12, 13, 22, 24, 25, 26



Holi am argaeledd
Share by: