Prynu ein mêl o flodau gwyllt Ynys Môn.

Rydym yn gwerthu ein mêl mewn jariau 8oz a 12oz deiniadol am £7 a £9.  Gallwch ei brynu o'n siop ar-lein a byddwn yn ei anfon i chi mewn parsel tracked 24 efo'r post brenhinol.


Fel arall, gallwch alw yn Trefnant bach i'w brynu. Mae'n hanfodol eich bod yn cysylltu a ni o flaen llaw (07816 188573) i drefnu amser addas i alw i brynu mêl. Gallwn dderbyn arian parod neu gerdyn.


Cyflenwyr

Gallwch hefyd brynu ein mel o'r cyflenwyr canlynol:-

Ein addewid i chi


Rydym yn teimlo'n angerddol am ansawdd y mêl blodau gwyllt o Ynys Môn yr ydym yn ei gynhyrchu a'i werthu. Gallwch fod yn sicr ei fod bob amser yn ffres ac yn cael ei gynhyrchu gennym ni. Yn wahanol i lawer o gyflenwyr mêl eraill, nid ydym yn dosbarthu mêl gan wenynwyr eraill. Ar ben hynny, nid ydym yn cadw stoc o fêl o flynyddoedd blaenorol er mwyn ceisio llyfnhau'r cyflenwad. Rydym yn cynaeafu mêl perthi'r gwanwyn ym mis Mehefin a mêl blodau gwyllt yr haf ym mis Awst. Gallwn nodi ffynhonnell pob jar o fêl a'r blodau y mae'r gwenyn yn debygol o fod wedi bod yn chwilota arnynt. 


Mae ein mêl yn rhedegog i ddechrau a bydd yn naturiol yn dechrau crisialu a chaledu mewn tua 4-6 mis. Os yw'n well gennych chi fêl rhedegog, rhaid ei storio mewn lle cynnes, tra bydd storio yn yr oergell yn ei wneud yn galed yn fuan.



Gwobr Anrhydedd Great Taste

Cafodd Gwenyn Môn ei  enwi ymhlith y cynhyrchwyr bwyd a diod gorau yn fyd-eang yn 2024, gan ennill gwobr Anrhydedd Great Taste am ei Mêl Blodau Gwyllt yr Haf o Môn. Fe'i disgrifiwyd gan feirniaid fel "very delicate in flavour, bright and appealing, with a real blast of the hedgerow in the aroma"  yng ngwobrau bwyd a diod mwyaf clodwiw y byd. Roedden nhw'n ei alw'n “a honey we would enjoy on our toast".


Sicrwydd hylendid Bwyd

Er mwyn sicrhau ein bod yn cwrdd â gofynion hylendid bwyd bob amser, rydym wedi cofrestru fel cynhyrchydd bwyd ac wedi cwblhau hyfforddiant lefel 2 mewn hylendid bwyd a diogelwch ar gyfer gweithgynhyrchu ac wedi mabwysiadu system rheoli diogelwch bwyd yn dilyn egwyddorion HACCP a TACCP.  Mae ganddom sgor hylendid bwyd o 5 (da iawn) ar ol archwiliad gan y cyngor, rhywbeth nad sydd gan y mwyafrif o wenynwyr.