Darparwr hyfforddiant a phrofiadau cadw gwenyn mwyaf blaenllaw Cymru ar sail niferoedd ein cwsmeriaid a'u hadolygiadau.


Enillydd gwobr Darparwr hyfforddiant Cadw Gwenyn Gorau 2023, yr SME Magazine Business Elite Awards




Newydd ar gyfer 2024!

Profiad Cwrdd y Gwenyn neu Blasu'r mêl 

a chyfranddaliadau Plan Bee



polisi canslo ac ad-dalu

Polisi canslo ac ad-dalu Gwenyn Môn



1. Daw archeb ar gyfer cwrs neu brofiad yn rhwymol pan wneir taliad neu os anfonir e-bost atoch gennym ni i gadarnhau trefniant ar gyfer digwyddiad a archebwyd gan ddefnyddio tocyn anrheg.


2. Mae Gwenyn Môn yn cadw'r hawl i ganslo cwrs neu brofiad. Gwnawn ein gorau i gysylltu a rhoi gwybod i chi ymlaen llaw os bydd cwrs neu brofiad yn cael ei ganslo. Os byddwn yn canslo cwrs neu brofiad byddwch yn derbyn ad-daliad llawn trwy drosglwyddiad banc.


3. Ni allwn fod yn gyfrifol am unrhyw golled ariannol neu anghyfleustra a achosir wrth i ni ganslo cwrs neu brofiad.


4. Os ydych wedi talu am gwrs neu brofiad, neu wedi archebu digwyddiad gyda thocyn anrheg dylech ein hysbysu o’ch bwriad i ganslo drwy e-bost at dafydd@angleseybees.co.uk


5. Os byddwch yn dewis canslo cwrs neu brofiad ac yn ein hysbysu o hyn o leiaf 14 diwrnod cyn dyddiad y digwyddiad, byddwn yn rhoi nodyn credyd i chi o'r un gwerth, i'w ddefnyddio o fewn 12 mis. Nid ydym yn rhoi ad-daliadau mewn arian parod neu drosglwyddiad banc. Byddwn yn gwneud ein gorau i aildrefnu eich digwyddiad, ond ni allwn warantu y gallwn gynnig eich dyddiad dewisol i ad-dalu eich nodyn credyd. Fel arall, gallwch drefnu i rywun arall, (efallai ffrind neu aelod o'r teulu) fynychu yn lle chi.


6. Bydd nodyn credid a roddir mewn ymateb i ganslo digwyddiad yn ddi-rym os na chaiff ei ddefnyddio o fewn 12 mis i ddyddiad y digwyddiad gwreiddiol


7. Ni ellir ad-dalu os byddwch yn canslo digwyddiad yn rhannol neu'n llawn  14 diwrnod neu lai cyn y digwyddiad ac ni ellir eu haildrefnu. Bydd tocynnau  anrheg a ddefnyddiwyd i archebu digwyddiadau a ganslwyd 14 diwrnod neu lai cyn i'r digwyddiad yn dod yn ddi-rym. Fodd bynnag, os na allwch chi neu unigolion yn eich grŵp fod yn bresennol, gallwch drefnu  i rywun arall, (ffrind neu aelod o'r teulu efallai) fynychu yn lle chi.


8. Rydym yn cadw'r hawl i beidio â mynd â gwesteion i'r wenynfa yn ystod cwrs neu brofiad neu beidio ag agor ac archwilio cychod gwenyn yn y wenynfa gyda gwesteion pan fyddwn yn meddwl bod y tywydd yn anaddas  ar gyfer y gweithgareddau hyn.


9. Rydym yn cadw'r hawl i beidio â chanslo profiad  ar sail tywydd anaddas ac i amrywio'r gweithgareddau a gynigir, gan gynnwys defnyddio cwch dan gysgod neu gwch gwenyn arsylwi â blaen gwydr yn lle archwiliadau cychod yn y wenynfa yn ystod profiad.


10. Cadwn yr hawl i beidio canslo un o'r ddau ddiwrnod o gwrs deuddydd i ddechreuwyr ar sail tywydd anaddas. Mewn digwyddiad o’r fath mae’n bosibl y byddwn yn newid trefn y gweithgareddau a/neu’n archwilio cychod gwenyn dan do yn lle archwiliadau cychod gwenyn yn y wenynfa.

Share by: