Darparwr hyfforddiant a phrofiadau cadw gwenyn mwyaf blaenllaw Cymru ar sail niferoedd ein cwsmeriaid a'u hadolygiadau.


Enillydd gwobr Darparwr hyfforddiant Cadw Gwenyn Gorau 2023, yr SME Magazine Business Elite Awards




Newydd ar gyfer 2024!

Profiad Cwrdd y Gwenyn neu Blasu'r mêl 

a chyfranddaliadau Plan Bee



blasu'r mêl

  • Teitl sleid

    Write your caption here
    Botwm
  • Teitl sleid

    Write your caption here
    Botwm
  • Teitl sleid

    Write your caption here
    Botwm
  • Teitl sleid

    Write your caption here
    Botwm
  • Teitl sleid

    Write your caption here
    Botwm
Ymholiad am argaeledd Tocynnau anrheg

Dyddiadau ar gyfer 2024

Ebrill 6, 7, 10, 11, 13, 16, 17, 27, 28

Mai  4, 5, 6, 11, 12, 14, 15, 17, 18

Mehefin 8, 9, 10, 11, 22, 23

Gorffennaf 6, 7, 11, 12, 24, 27, 28, 29

Awst 8, 10, 11, 12, 13, 22, 24, 25, 26

Blasu'r mêl!


Hoffech chi ddysgu mwy am fêl? Hoffech chi wybod pam bod peth mêl yn rhedegog ac eraill yn solet? neu pam mae mêl archfarchnad yn aml yn rhad ac yn ddi-flas?


Yn ystod y gweithgaredd 90 munud hwn byddwn yn eich tywys trwy brofiad blasu mêl ac yn ateb eich holl gwestiynau am fêl.


Efallai y cewch gyfle i flasu ein mêl lleol sy’n cael ei gynaeafu ar wahanol adegau o’r flwyddyn ac ystod amrywiol o fêl o wledydd eraill. Bydd yr amrywiaeth o fêl a gynigir yn amrywio o bryd i'w gilydd.


Yn ystod y profiad byddwch hefyd yn darganfod ychydig am gylch bywyd gwenyn mêl a’r cychod gwenyn y maent yn byw ynddynt a sut rydym yn cynaeafu’r mêl.


  • Cost, £30 y person, uchafswm o 6 pherson.
  • £25 y pen i rai 14 oed ac iau.
  • Mae'n rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn sy'n talu.
  • Grwpiau preifat mwy trwy drefniant
  • 11:00 - 12:30 neu 15:00 - 16:30
  • Ffoniwch, tecstiwch neu e-bost i wirio argaeledd.
  • Tocynnau anrheg ar gael ar gyfer y profiad hwn.
Share by: