Darparwr hyfforddiant a phrofiadau cadw gwenyn mwyaf blaenllaw Cymru ar sail niferoedd ein cwsmeriaid a'u hadolygiadau.


Enillydd gwobr Darparwr hyfforddiant Cadw Gwenyn Gorau 2023, yr SME Magazine Business Elite Awards




Newydd ar gyfer 2024!

Profiad Cwrdd y Gwenyn neu Blasu'r mêl 

a chyfranddaliadau Plan Bee



Rheoli llu o gychod mewn diwrnod

Rheoli llu o gychod mewn diwrnod!

Dewch gyda Dafydd am fore neu bnawn wrth iddo archwilio a rheoli hyd at ugain o gychod gwenyn yn y wenynfa.

Dyma gyfle prin i weld sut caiff nifer o gychod o wahanol fathau eu rheoli a dysgu am y broses o hel gwybodaeth, gwneud penderfyniadau a datrys problemau sy'n ynghlwm a rheolaeth tymhorol y cychod gwenyn a'r gwenynfeydd.

Mae hwn yn brofiad dysgu unigryw ac yn gyfle i ofyn cwestiynau yn y fan a'r lle wrth i bethau ddatblygu.

  • Uchafswm o 4 berson
  • Dechrau Ebrill - ddiwedd Awst
  • Yn cynnwys y defnydd o ddillad amddiffynnol.
  • Ffolder o nodiadau wedi'u hargraffu i gyd-fynd â chyrsiau dechreuwyr a gloywi a dolenni i ddarllen pellach ar gael ar gais.
  • Gwahoddiad i ymuno â grŵp whatsapp preifat i gael cefnogaeth barhaus.

Bydd yr hyn rydych chi'n ei brofi yn dibynnu'n llwyr ar yr adeg o'r flwyddyn a'r tasgau y mae'n rhaid eu gwneud ym mhob gwenynfa, ond bydd yn cynnwys llawer o'r canlynol: -
  • Cynllun a rheolaeth gwenynfa
  • Ehangu eich menter gwenyn
  • Rheolaeth y gwanwyn
  • Archwiliad  arferol y cychod gwenyn
  • Ehangu'r nythfa
  • Adeiladu crwybr
  • Cylchdroi fframiau
  • Rheolaeth heidio rhagataliol
  • Rheolaeth  heidio adweithiol
  • Gwneud cynnydd
  • Amnewid breninesau coll
  • Rheolaeth cnewyll paru
  • ychwanegu lloftydd mêl
  • Cynaeafu mêl
  • Rheoli lladrata
  • Trin yn erbyn faroa
  • Bwydo
  • Paratoi ar gyfer y gaeaf

  • Cost £60 y pen am hanner niwrnod
  • 10:00-13:00 neu 13:30-16:30
  • Ffoniwch, anfonwch neges destun neu e-bostiwch i wirio'r dyddiadau sydd ar gael ar gyfer eich digwyddiad neu i brynu tocyn anrheg.

Holi am argaeledd
Share by: