Darparwr hyfforddiant a phrofiadau cadw gwenyn mwyaf blaenllaw Cymru ar sail niferoedd ein cwsmeriaid a'u hadolygiadau.


Enillydd gwobr Darparwr hyfforddiant Cadw Gwenyn Gorau 2023, yr SME Magazine Business Elite Awards




Newydd ar gyfer 2024!

Profiad Cwrdd y Gwenyn neu Blasu'r mêl 

a chyfranddaliadau Plan Bee



Prynu mêl

Galw i brynu mêl neu brynu ar-lein

Rydym yn gwerthu ein Mêl o Fôn mewn jariau chweonglog 8oz a 12oz deiniadol am £6 neu £8.  Gallwch alw amdano neu ei archebu ar-lein i gyrraedd drwy'r post. Cysylltwch â ni ymlaen llaw i drefnu amser addas i alw yn Gwenyn Môn i brynu ein mêl. Gallwn dderbyn taliadau efo cerdyn neu arian parod. Gallwn gynnig gostyngiad pe byddech yn prynu bocs yn cynnwys 18x jar 8oz neu 15x jar 12oz.

Mêl wedi'i ddanfon gan y Post Brenhinol

Gallwch archebu'ch mêl trwy lenwi'r ffurflen archebu ar waelod y dudalen hon a thalu trwy fancio ar-lein (gan ddefnyddio'r manylion ar waelod y dudalen) neu gyda cherdyn dros y ffôn. Yna byddwn yn ei anfon atoch gan ddefnyddio gwasanaeth y post brenhinol (Tracked 24 neu 48). Cofiwch ychwanegu'r swm cywir ar gyfer postio. Byddwn yn rhannu eich cyfeiriad, e-bost a rhif ffôn efo'r Post Brenhinol at ddibenion dosbarthu a thracio a byddant yn rhoi gwybod i chi pryd y bydd y parsel yn eich cyrraedd a gallwch newid y trefniadau os nad yw'n gyfleus. Felly, bydd angen e-bost a rhif ffôn y derbynnydd arnom os ydych yn prynu mêl ar gyfer rhywun arall e.e. fel anrheg. Sylwch nad ydym yn anfon mêl dramor ac ni allwn fod yn gyfrifol am yr amser y mae'n ei gymryd i'r Post Brenhinol ddanfon eich mêl. 

Mêl Ynys Môn ar ei orau

Rydym yn cynhyrchu ein holl fêl Môn ein hunain. Nid ydym yn prynu i mewn ac yn gwerthu mêl gan wenynwyr eraill. Rydym yn cynaeafu mêl y gwanwyn ar ddechrau mis Mehefin a mêl haf ar ddechrau mis Awst. Gallwn adnabod ffynhonnell pob jar o fêl ac ar ba flodau y mae'r gwenyn yn debygol o fod wedi bod yn chwilota arnynt.


Nid ydym yn cadw stoc o fêl o flynyddoedd blaenorol i sicrhau cyflenwad cyson fel y mae rhai gwenynwyr yn ei wneud. Felly, mae'r mêl rydyn ni'n ei werthu mor ffres ag sy'n bosib a byth yn fwy na 9 mis oed fel eich bod chi'n cael y profiad gorau posibl. Mae cwsmeriaid yn aml o'r farn nad yw mêl byth yn dirywio. Er ei fod yn parhau yn fwytadwy, dros amser bydd mêl yn colli ei bersawr a'i flas hynod. Os na allwch arogli blodau pan fyddwch chi'n agor y jar, yna mae'n fêl ffug neu mae'n hen.


 Mae'r pob mêl yn rhedegog i ddechrau a bydd yn dechrau crisialu a throi'n solet mewn tua 4-6 mis. Os yw'n well gennych fêl rhedegog, storiwch ef mewn man cynnes. Bydd ei storio yn yr oergell yn ei annog i droi'n solet yn y pen draw.

Sicrwydd hylendid Bwyd

Er mwyn sicrhau ein bod yn cwrdd â gofynion hylendid bwyd yn gyson, rydym wedi cofrestru fel cynhyrchydd bwyd ac wedi cwblhau hyfforddiant lefel 2 mewn hylendid bwyd a diogelwch ar gyfer gweithgynhyrchu ac wedi mabwysiadu system rheoli diogelwch bwyd yn dilyn egwyddorion HACCP a TACCP.  Mae ganddom sgor hylendid bwyd o 5 (da iawn) ar ol archwiliad gan y cyngor, rhywbeth nad sydd gan y mwyafrif o wenynwyr.


Pam mae mêl archfarchnad yn rhatach na mêl artisan?


Artisan - "gweithiwr mewn crefft fedrus, yn enwedig un sy'n cynnwys gwneud pethau â llaw. "

(o fwyd neu ddiod) "wedi'i wneud mewn ffordd draddodiadol neu heb fecanwaith gan ddefnyddio cynhwysion o ansawdd uchel. "


Mewn cymhariaeth, yn aml caiff mêl ffug rhad o archfarchnad ei labelu fel "cyfuniad o fêl o tu allan i'r UE"  (a blend of non-EU honey). Caiff ei fewnforio mewn swmp o China, ac nid oes unrhyw safonau ar ei gyfer. Yn aml caiff ei gynhyrchu o fêl  â gasglwyd cyn iddo aeddfedu'n naturiol a'i sychu'n artiffisial, a'i gymysgu â surop siwgr a'i gynhesu a'i hufenu i sicrhau ei fod yn unffurf.


Nifer o jariau Cost postio £ Gwasanaeth y post brenhinol
hyd at 4x jar 8oz 4.19 Parsel bach Tracked 24
5 i 10 jar 8oz £6.59 Parsel canolig Tracked 48
5 i 10 jar 8oz £7.59 Parsel canolig Tracked 24
hyd at 2 jar 12oz £4.19 Parsel bach Tracked 24
3-8 jar 12 oz 6.59 Parsel canolig Tracked 48
3-8 jar 12 oz 7.59 Parsel canolig Tracked 24

Archebu mêl

Os gwelwch yn dda, talwch drwy fancio ar-lein, gyfrif Starling Business Bank, rhif cyfrif, 48221226; côd didoli 608371; Enw’r cyfrif busnes, Dafydd Jones.  Defnyddiwch eich enw fel gyfeirnod.  Neu, ffoniwch 07816 188573 er mwyn talu efo cerdyn.


Share by: