Dwi am fod yn wenynwr!
Mae angen dau ddiwrnod llawn i ddysgu hanfodion cadw gwenyn. Gall y rhain fod yn ddyddiau olynol neu ar wahan. Caiff niferoedd eu cyfyngu i ddim mwy na phedwar i sicrhau sylw unigol a digonedd o gyfleoedd i holi cwestiynau myfyrio a gwneud cynnydd.
Cynhelir y diwrnodau hyfforddi o ddechrau Ebrill hyd at ddiwedd Awst a chynhelir cymysgedd o dasgau ymnarferol a theori yn ystod y ddau ddiwrnod. Yn ogystal â'n gwenynfa hyfforddi pwrpasol, mae rhai o'n chychod gwenyn o dan gysgod. O ganlyniad, gallwn barhau â'n hyfforddiant beth bynnag wna'r tywydd. Disgwyliwn i chi allu archwilio cwch ar ben eich hun (o dan oruchwyliaeth, wrth gwrs!) erbyn diwedd eich ail ddiwrnod o hyfforddiant.
Byddwn yn cynghori dechreuwyr i beidio â phrynu gwenyn cyn mynychu'r cwrs. Fodd bynnag, gallwn awgrymu ble y gallwch brynu gwenyn a'u harchebu o flaen llaw. Yn yr un modd, gallwn eich cynghori cyn prynu offer a siwt.
- Cylchdro bywyd ac anatomi'r gwenyn
- Adeiladwaith y cwch gwenyn cenedlaethol
- Offer a dillad amddiffynnol
- Sefydlu gwenynfa
- Cyflwyno'r gwenyn newydd i'w cwch
- Archwilio cwch gwenyn
- Rheoli'r gwenyn yn eu blwyddyn gyntaf
- Tasgau tymhorol, gan gynnwys, rheoli heidio, paratoi ar gyfer y gaeaf a rheoli plau.
- Gofynion statudol
- Mae hwn yn digwyddiad pob tywydd
- Cost, £195 y person am y ddau ddiwrnod,
- Uchafswm o 4 person
- Grwpiau mwy drwy drefniant
- 10:00 - 16:30
- Gellir cynnig dyddiau amgen i grwpiau o 2 neu fwy
- Defnydd o ddillad amddiffynnol
- Ffolder o nodiadau cynhwysfawr i gydfynd â'r cwrs a dolenni at ddeunydd darllen pellach, os hoffech
- Cysylltwch drwy alwad, neges destun neu ebost i drefnu eich hyfforddiant neu i brynu tocyn anrheg.
- Yn cynnwys ymweliad â safle eich darpar wenynfa os hoffech
- Gwahoddiad i ymuno â grwp whatsapp preifat am gefnogaeth i'r dyfodol
- Tocyn anrheg ar gael ar gyfer y cwrs hwn
Dyddiadau cyrsiau dechreuwyr yn 2026
Ebrill - 4&5; 15&16
Mai - 2&3; 13&14; 23&24
Mehefin - 6&7; 10&11
Gorffennaf - 11&12; 22&23
Awst - 5&6; 22&23
Ewch i'r siop ar-lein i archebu




