Darparwr hyfforddiant a phrofiadau cadw gwenyn mwyaf blaenllaw Cymru ar sail niferoedd ein cwsmeriaid a'u hadolygiadau.


Enillydd gwobr Darparwr hyfforddiant Cadw Gwenyn Gorau 2023, yr SME Magazine Business Elite Awards




Newydd ar gyfer 2024!

Profiad Cwrdd y Gwenyn neu Blasu'r mêl 

a chyfranddaliadau Plan Bee



Amdanaf i

Amdanaf i …...

Fy enw i yw Dafydd Jones a gyda fy ngwraig, Dawn,  rwy'n gyfrifol am Wenyn Môn o'n tyddyn yn Llanddaniel, Ynys Môn. Yn ogystal â'r gwenyn mae ganddom ddiadell fechan o ddefaid pedigri Swydd Amwythig ac rydym rheoli coedlan gymysg ar gyfer creu tanwydd a chynefin. Rydym hefyd yn tyfu llysiau a ffrwythau i'r gegin ac yn cefnogi rhedeg busnes gwely a brecwast  moethus.

Ar ôl astudio ecoleg, gwyddor pridd ac entomoleg ar gyfer fy ngradd anrhydedd ym Mhrifysgol Llundain, dechreuais fy ngyrfa a chefais fy noethuriaeth fel Gwyddonydd Ymchwil Amgylcheddol yn y Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ger Aberystwyth. Am yr 20 mlynedd diwethaf rwyf wedi gweithio fel athro bioleg.

Teimlwn yn  angerddol am dranc gwenyn a bioamrywiaeth, cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, addysg wyddonol a chysylltu â natur.

Rydym wedi ehangu ein gwenynfeydd yn llwyddiannus yn ystod y blynyddoedd diwethaf trwy ddethol a magu gwenyn digynwrf, cynhyrchiol ac iach.

Share by: