Darparwr hyfforddiant a phrofiadau cadw gwenyn mwyaf blaenllaw Cymru ar sail niferoedd ein cwsmeriaid a'u hadolygiadau.


Enillydd gwobr Darparwr hyfforddiant Cadw Gwenyn Gorau 2023, yr SME Magazine Business Elite Awards




Newydd ar gyfer 2024!

Profiad Cwrdd y Gwenyn neu Blasu'r mêl 

a chyfranddaliadau Plan Bee



Profiadau

Profiadau cadw gwenyn


Mae ein profiadau cadw gwenyn wedi’u hanelu at unigolion, teuluoedd, ffrindiau a grwpiau a hoffai gael blas ar gadw gwenyn heb ymrwymo i wneud cwrs i ddechreuwyr.


Mae nifer y mynychwyr wedi'u cyfyngu i ddim mwy na 4-6 o unigolion fel eich bod chi'n cael y gorau o'ch profiad. Mae profiadau ar gael i grwpiau preifat mwy trwy drefniant.


Ar gael rhwng dechrau Ebrill a diwedd Awst

Mae tocynnau anrheg ar gael ar gyfer profiadau.

Newydd ar gyfer 2024 - "Cwrdd â'r Gwenyn!"

Gweithgaredd 90 munud lle byddwch yn gwisgo siwt gwenynwr ac yn ymweld â'r wenynfa, agor cwch gwenyn ac archwilio'r gwenyn tu mewn. Mae hyn yn gwneud cyfle instagram ffantastig!


Newydd ar gyfer 2024 - "Blasu'r mêl!"

Gweithgaredd 90 munud lle byddwn yn eich arwain trwy brofiad blasu mêl. Dysgwch am y gwahaniaeth rhwng mêl archfarchnad a mêl crefftus a mêl solet a rhedegog a mwy!


Profiad hanner niwrnod "Cael Blas ar Gadw Gwenyn"

Profiad hanner niwrnod o gadw gwenyn yn cynnwys popeth yn y profiadau "Cwrdd â'r Gwenyn" a "Blasu'r Mêl" a mwy, gan gynnwys gwneud cannwyll cwyr gwenyn i fynd adref gyda chi.


Gwenynwr am y ddiwrnod.

Diwrnod llawn i roi cynnig arni cyn prynu; rhoi tic yn eich rhestr bwced! neu i fod yn wenynwr pan fyddai amgylchiadau yn eich atal.



Share by: